·                Adolygu’r cynnydd ers adroddiad 2012 y Pwyllgor Menter a Busnes: Prentisiaethau yng Nghymru (PDF 403KB)

·                Mae hyn yn cynnwys edrych ar rôl chwaraewyr allweddol: y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol; Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru (WESB); a Chynghorau Sgiliau Sector.

·                Mae tranc y Cynghorau Sgiliau Sector yn cael effaith niweidiol ar addasrwydd y Fframweithiau presennol i bwrpas. Gall y pontio at Safonau ac Arloeswyr yn Lloegr, a hefyd amharodrwydd Llywodraeth Cymru i addasu’n gyflym i’r Safonau hynny mae cyflogwyr am eu gweld, greu tagfa o ran datblygu prentisiaethau. Mae CSS fel IMI wedi tynnu eu cefnogaeth i WESB yn ôl ac mae hyn, ynghyd â’r ansicrwydd ynghylch gofynion ES, angen sylw. Mae cyrff dyfarnu a’r CSS sy’n weddill yn llusgo eu traed o ran cynnwys elfennau penodol darpariaeth ESW Cymru a’i chynnwys yn “Fframwaith Cymru”. 

·                Nid oes gwir unffurfiaeth o ran pwrpas wrth benderfynu beth sy’n flaenoriaeth ar gyfer darparu prentisiaethau; mae’r economi sylfaen yn cynrychioli 24% o weithgarwch cyflogwyr yng Nghymru ond eto mae darparwyr yn cael eu capio ar 10% o werth y contract i ddarparu i’r sector hwnnw. Mae’r galw a arweinir gan y cyflogwyr yn y sector hwnnw’n cynyddu, oherwydd yr ardoll, bydd darparwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru’n cael trafferth bodloni’r galw. Rhaid wrth gyfres unigol o flaenoriaethau clir ar gyfer Cymru, cyfres sy’n bodloni gofynion sefydliadau trawsgenedlaethol.

Bydd gweithredu’r safonau prentisiaeth newydd yn Lloegr, gyda’r mwyafrif ddim yn cynnwys cymwysterau achrededig, yn arwain at Sefydliadau Dyfarnu’n symud oddi wrth ddarparu’r cymwysterau galwedigaethol sy’n parhau yn fframweithiau prentisiaeth Cymru. Oni bai fod Llywodraeth Cymru’n gweithredu i sicrhau bod marchnad cymwysterau Cymru’n atyniadol i sefydliadau dyfarnu, byddwn mewn sefyllfa lle mae cymwysterau galwedigaethol yn diflannu.                     

 

·                Craffu ar hygyrchedd cyngor gyrfaoedd annibynnol ar Brentisiaethau ac opsiynau galwedigaethol eraill?

·                Yn arbennig ar gyfer pobl ifanc, naill ai yn yr ysgol, gan Gyrfa Cymru, ar-lein neu o ffynonellau eraill?

Mae cyngor gyrfaol mewn ysgolion yn rhy hwyr. Mae diffyg ehangder o ran yr opsiynau a drafodir. Mae’r dyhead i ysgolion gadw niferoedd myfyrwyr yn y chweched dosbarth yn arwain at gyngor ac arweiniad rhagfarnllyd.

Mae’r ddarpariaeth Ôl 16 gyfredol yn ddryslyd ac felly’n anodd i ddysgwyr a’u rhieni ei deall. Mae cynllun Ôl 16 Lloegr wedi cyfrannu llawer at geisio datrys y broblem hon. Dylai cynllun tebyg fod ar gael yng Nghymru, i geisio symleiddio’r system. Dylai adolygiadau galwedigaethol Cymwysterau Cymru fod yn sail i’r cynigion i sicrhau bod y newidiadau’n gwbl seiliedig ar dystiolaeth.

Mae cyfleoedd i groesawu cymunedau busnes drwy gyfrwng Bagloriaeth Cymru wedi’i adolygu’n cael eu colli mewn ysgolion oherwydd diffyg dealltwriaeth rhai staff addysgu. O’u darparu’n gywir, byddai hyn yn gwella’r wybodaeth am y gymuned fusnes a gyrfaoedd amrywiol.         

Byddai gwell mynediad i sefydliadau AB a dysgu seiliedig ar waith i ysgolion, o ran cyngor gyrfaol, yn ehangu’r ystod o gyngor ar gyrchfannau gyrfaol. Mae’r ddarpariaeth bresennol yn rhy gyfyng ac yn cyfyngu ar wir ddewisiadau ac opsiynau gyrfaol.

 

·                Ydi Gwasanaeth Cyfateb Prentisiaethau Gyrfa Cymru’n addas i bwrpas? 

Ydi, ond er bod egwyddor y Gwasanaeth Cyfateb Prentisiaethau’n dda, mae angen gwella swyddogaeth y system. Mae’r system bresennol yn feichus ac mae’n anodd i gyflogwyr a darpar brentisiaid gwblhau’r manylion llawn. 

Nid yw cyflogwyr yn hoffi gorfod ail-lunio eu darpariaeth o lefydd gwag yn fformat safonol sengl CWAMS. Rhaid i CWAMS ystyried y fformat hwn er mwyn annog cyflogwyr sy’n recriwtio prentisiaid o’r tu allan i’r prif rwydwaith contractwyr osod y llefydd gwag ar CWAMS.

 

·                Sut gellir sicrhau’r un lefel o barch i lwybrau galwedigaethol ac academaidd?

Mae newid wedi bod yn y dyhead i bobl ifanc beidio â mynd i ddyled o ganlyniad i addysg barhaus. Fodd bynnag, bydd diffyg IAG clir mewn ysgolion yn parhau i greu annhegwch o ran parch. 

Nid oes arweiniad gan LlC o ran tegwch. Dylai LlC hybu’r llwybr cymwysterau a dysgu amgen mae dysgu galwedigaethol a Phrentisiaethau’n ei gynnig. Mae dealltwriaeth wael o hyd o’r amrywiaeth o opsiynau galwedigaethol sydd ar gael i bobl ifanc.                       

Mwy o hyrwyddo ar straeon llwyddiannus a datblygu cyfleoedd i ddathlu llwyddiant galwedigaethol yn yr un modd ag yr ydym yn dathlu llwyddiant academaidd.

·                Ymchwilio i’r prif rwystrau sy’n atal dewis Prentisiaethau?

Un o’r prif rwystrau yw’r cymhlethdod sy’n arwain at feddwl bod rhaid i chi fod mewn gwaith er mwyn bod yn brentis. Mae’r Prif Gontracwyr a’r Is Gontractwyr yn mynd i drafferth mawr i recriwtio cyflogwyr i ddechrau ac wedyn recriwtio prentisiaid. Does dim “cronfa” o bobl ifanc sy’n cael eu paratoi ac yn barod i fynd ar raglen brentisiaeth.              

Gallai model ATA neu amrywiad ar fodel darparu prentisiaethau Awstralia ddatrys y sefyllfa hon drwy gael cynllun pontio lle byddai myfyrwyr ar gael i gyflogwyr fel prentisiaid.

Parhau i fuddsoddi a hybu’r brand prentisiaethau, gan dynnu sylw at gyfleoedd sy’n ganlyniad darparu prentisiaethau. Hefyd gall hybu datblygiad Prentisiaethau Iau annog dysgwyr sy’n wynebu risg o bosib o ymddieithrio i aros mewn addysg a hyfforddiant drwy ddarparu llwybrau o ansawdd uchel at gyflogaeth.                

 

·                Pa mor hygyrch yw Prentisiaethau i bobl ag anableddau (pob oedran)?

Mae’r gofyniad i brentisiaeth fod yn gyflogedig yn cynnwys y cymhlethdod o gyflogwr yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anabledd. 

 

·                Sut mae cefnogi pobl o deuluoedd incwm isaf i ddewis Prentisiaethau?

Yn aml mae costau cyflogaeth am y tro cyntaf yn cael eu tanamcangyfrif. Felly, byddai cefnogaeth gyda theithio a chynhaliaeth, taliadau ymlaen llaw i dalu am fis cyntaf y gyflogaeth, a darparu dillad busnes addas ar gyfer cyfweliad a’r cyfnod cyflogaeth cyntaf, yn helpu’n sylweddol gyda chael gwared ar y rhwystrau sy’n atal dewis prentisiaethau.

Mae’n ymddangos yn rhyfeddol bod darpariaeth yn bodoli i helpu’r genhedlaeth ôl 60 ond nid i bobl ifanc sy’n newydd i fyd gwaith.                 

Gall hybu rhaglenni Prentisiaethau Iau ac ymestyn y modiwl darparu hwn ddarparu cyfleoedd ychwanegol i ddysgwyr o deuluoedd incwm isaf.                         

 

·         Pa arfer da sy’n bodoli a beth arall ellir ei wneud i roi sylw i stereoteipio rhywiau?

Fel gyda’r ymateb anabledd, cyflogir prentisiaid ac felly rhaid addysgu cyflogwyr i annog cyflogi grwpiau a dangynrychiolir, i roi sylw i stereoteipio rhywiau.    

Fel coleg rydym wedi mynd ati i hybu prentisiaethau ymhlith grwpiau a dangynrychiolir ac wedi cael rhywfaint o lwyddiant gyda hyn. Yr enghreifftiau yw prentisiaid benywaidd mewn peirianneg ac adeiladu. Byddai cefnogaeth gan LlC i wella’r hybu yma ymhellach yn fuddiol.                          

Byddai gwell cysylltiadau ag ysgolion a phrofiad gwaith yn helpu i roi sylw i rai o’r delweddau stereoteip a gyflwynir.                                    

 

·                Craffu ar ddatblygiad Prentisiaethau lefel uwch gyda chefnogaeth sefydliadau addysg bellach ac uwch?                          

Rydym yn croesawu cyfle i ddatblygu prentisiaethau lefel uwch. Sgiliau rheoli yng Nghymru’n hynod ddiffygiol. Fodd bynnag, cymhwyster seiliedig ar waith yw hwn i’w gyflwyno i brentisiaid cyflogedig ac, ar y lefel yma, maent yn cael anhawster gydag ymrwymiad amser. Byddai dull modiwlar a mwy hyblyg o ran cyllid yn rhaglen llawer mwy atyniadol i gyflogwyr a darpar brentisiaid. Cyfle iddynt adeiladu ar eu cymhwyster dros amser.                              

 

·                Pa mor effeithiol yw’r cynnydd rhwng dysgu seiliedig ar waith arall a Phrentisiaethau a rhwng Prentisiaethau Lefelau 2, 3, 4 ac uwch?

Nid yw’r data presennol am gynnydd yn ddigon cadarn i wneud sylwadau ar effeithiolrwydd llawn y cynnydd ar draws lefelau. Mewn rhai sectorau, mae’r gofynion cymhwyso rhwng lefelau’n golygu bod rhaid cael toriad yn y dysgu fel bod prentisiaid yn cael amser i ddatblygu sgiliau, neu fynychu cyfleoedd gyrfaol i fodloni gofynion mynediad y lefel nesaf. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn cael eu cofnodi fel cynnydd. Byddai gwell casglu data am gyrchfan dros amser yn gwella’r dystiolaeth o gynnydd.                                                

 

·                Sut gellir gwella cysylltiad cyflogwyr â Phrentisiaethau?

 

Mae cyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau wedi arwain at gynnydd arwyddocaol yn y cyflogwyr sydd eisiau ymwneud â Phrentisiaid. Fodd bynnag, nid ydynt eisiau rhaniad ar draws y bwrdd gyda’r ddarpariaeth brentisiaethau. Rhaid wrth hyblygrwydd i gynnig y fframwaith neu’r safon mae’r cyflogwr ei heisiau. 

 

Mae’r comisiynu presennol ar ddysgu seiliedig ar waith yn rhy hir a chymhleth i gyflogwyr ei ddeall. Ar hyn o bryd rhaid i ddarparwyr cymeradwy gyflwyno tendrau hyd at 18 mis cyn dechrau cyfnod y contract. Gall cyfnod y contract bara hyd at 5 mynedd. Gyda thendr rhaid i brif gontract ddarparu rhagolygon dechrau yn ôl sector, oedran ac awdurdod lleol. Mae’n amhosib rhagweld yn fanwl gywir beth fydd galw cyflogwyr ymhen 6 blynedd. Felly, rhaid comisiynu’n fwy hyblyg yn seiliedig ar alw cyflogwyr yn y dyfodol, a byddai rhoi rhyddid i gyflogwyr ddewis y darparwr sydd fwyaf addas i’w anghenion yn cynyddu’r nifer sy’n dewis prentisiaethau a gallu darparwyr i ymateb i newidiadau yn yr economi.